SL(5)084 - Gorchymyn Ardaloedd Rheoli Mwg (Dosbarthau Esempt ar Leoedd Tân) (Cymru) 2017

Cefndir a Phwrpas

Mae'r Gorchymyn hwn yn dirymu ac yn disodli gyda diwygiadau Orchymyn Ardaloedd Rheoli Mwg (Lleoedd Tân Esempt) (Cymru) 2016 ("Gorchymyn 2016).

Mae adran 20 o Ddeddf Aer Glân 1993 ("Deddf 1993") yn gosod gwaharddiad cyffredinol ar allyrru mwg mewn ardaloedd rheoli mwg.

Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn a wneir o dan adran 21(5) o Ddeddf 1993, esemptio, o ran Cymru, ddosbarthau penodedig ar leoedd tân rhag darpariaethau adran 20, os ydynt wedi eu bodloni y gellir defnyddio’r cyfryw leoedd tân i losgi tanwydd nad yw’n danwydd awdurdodedig a hynny heb gynhyrchu unrhyw fwg neu faint sylweddol o fwg.

Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn esemptio dosbarthau ar leoedd tân a restrir yn y golofn gyntaf o’r Atodlen i’r Gorchymyn hwn rhag darpariaethau adran 20 o Ddeddf 1993, yn ddarostyngedig i’r amodau yn yr ail golofn a’r drydedd golofn o’r Atodlen honno mewn perthynas â’r dosbarth hwnnw ar leoedd tân.

Gweithdrefn

Negyddol

Craffu Technegol

Nodwyd y pwynt canlynol i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn (Rheol Sefydlog 21.2 (vi): ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio'r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol).

Nod erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn yw dirymu Gorchymyn 2016. Fodd bynnag, yn yr erthygl, cyfeirir at y Gorchymyn a ddirymir fel Gorchymyn Ardaloedd Rheoli Mwg (Lleoedd Tân Esempt) (Cymru) 2016. Mae'r teitl hwn yn anghywir.

Craffu ar rinweddau

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Ymateb y Llywodraeth

Mae angen ymateb gan y Llywodraeth.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

27 Mawrth 2017